Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.
Gwneud gwahaniaeth o bwys heddiw
Ysmygu yw'r ffactor sy'n achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau ac afiechydon y gellid eu hosgoi yn y Deyrnas Gyfunol. Er bod nifer y bobl sy'n ysmygu yma wedi disgyn yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, y mae'n parhau'n rhy uchel. Ar hyn o bryd, 27% o'r boblogaeth sy'n ysmygu.
Mewn rhannau eraill o'r byd, megis Sweden, Awstralia a Chaliffornia, llwyddwyd i ostwng y cyfartaledd hwn i lai nag 20%.
Beth, felly, sy'n cael ei wneud i gyrraedd y ffigwr hwn?
Wedi gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol, byddai'n hawdd gorffwys ar ein rhwyfau, gan feddwl nad oes dim mwy y gallwn ei wneud i gyfyngu ar ysmygu.
Ond ni fydd gweithredu yn y dull presennol yn ddigon i sicrhau gostyngiad cyflym yn y defnydd o dybaco.
Cynhadledd ar reoli tybaco yw Gweithredwch Nawr! sy'n gofyn pa gamau y mae'n rhaid i ni eu cymryd i sicrhau lleihad sylweddol yn y defnydd o dybaco a sut mae gweithredu nawr i gyflawni hynny.
Dyma rai o'r cwestiynau allweddol a drafodir yn y gynhadledd:
Bydd y cynadleddwyr yn cael dysgu am lwyddiannau a phrofiadau heriol arbenigwyr ym maes rheoli tybaco o Awstralia, Sweden a Chaliffornia.
Bydd y gynhadledd hon yn herio ein ffordd o weithio heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Bydd yn galw ar bawb gan gynnwys gweithwyr yn y maes, gwneuthurwyr polisi a gwleidyddion i wneud mwy na gweithredu'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Does dim dwywaith amdani: rhaid i ni i gyd wneud llawer, llawer mwy.