In English

Gweithredwch Nawr! Rheoli Tybaco ar gyfer y Dyfodol

Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.

Dychmygwch… Dyma eich cyfle

Mynd yn syth i'r cynnwys

Llywio trwy'r wefan

Siaradwyr yn y Gynhadledd

April Roeseler, MSPH, Pennaeth Rhaglenni a Gwerthuso Lleol, Rhaglen Reoli Tybaco Califfornia

Mae April Roeseler yn gweithio i Raglen Reoli Tybaco Califfornia ers ei sefydlu yn 1989. Hi yw Pennaeth Rhaglenni a Gwerthuso Lleol yn Is-Adran Rheoli Tybaco, Adran Iechyd Cyhoeddus Califfornia (CDHS/TCS). Mae'n gyfrifol am weinyddu rhaglen grant a chymorth lleol gwerth $35 miliwn a rhaglen gwerthuso ac arolygu gwerth $4 miliwn. Mae hefyd yn goruchwylio rheolaeth wybodaeth, technoleg a lledaenu i CDHS/TCS. Cydlynodd Ms Roeseler ymateb y Dalaith i Welliant Synar a gynigiwyd gan y llywodraeth ffederal yn 1994, ac ymgyrchoedd Operation Storefront yn 1995 a 1997, a chyfrannodd tuag at ddatblygu a gweithredu ymgyrch Project SMART Money, Communities of Excellence in Tobacco Control yn 2000 a 2003, ymgyrch STORE yn 2002, papur polisi Califfornia ar leihau niwed, ac mae'n goruchwylio System Wybodaeth Ar-Lein Rhaglen Reoli Tybaco Califfornia (OTIS). Hi yw cyd-awdur y llawlyfr adnoddau Communities of Excellence Plus, a ddosbarthwyd gan y Ganolfan Gymorth Technegol a Hyfforddi, a chynorthwyodd y Canolfannau dros Reoli ac Atal Afiechydon, Swyddfa Ysmygu neu Iechyd i fesur y dangosyddion allweddol ar gyfer rhaglenni rheoli tybaco cyflawn. Derbyniodd radd mewn Iechyd Cyhoeddus gan Adran Feddygaeth Prifysgol Missouri (MSPH), Columbia, a gradd mewn nyrsio (BSN) gan Brifysgol Talaith Califfornia yn Fresno.

© Ash Cymru 2007. Dyluniwyd a datblygwyd y wefan gan Core mewn cydweithrediad â Cactus.

Cyfeiriad: Ash Cymru, 2ail Lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG

Ffôn: 029 2064 1101