In English

Gweithredwch Nawr! Rheoli Tybaco ar gyfer y Dyfodol

Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.

Gwneud tybaco'n annymunol, yn annerbyniol ac yn anodd cael gafael arno

Mynd yn syth i'r cynnwys

Llywio trwy'r wefan

Siaradwyr yn y Gynhadledd

Deborah Arnott

Deborah Arnott yw Cyfarwyddwraig Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd yn Lloegr – elusen iechyd cyhoeddus sy'n adnabyddus am fod yn un o'r elusennau ymgyrchu mwyaf effeithiol yn y Deyrnas Gyfunol ac sydd ar flaen y frwydr i ddiogelu pobl rhag effeithiau niweidiol tybaco. Hi a arweiniodd yr ymgyrch lwyddiannus ddiweddar dros gael deddfwriaeth gynhwysfawr yn San Steffan yn erbyn ysmygu. Bu'n flaenllaw hefyd wrth sicrhau bod y Llywodraeth yn cadw at ei haddewid i wahardd hysbysebu tybaco. Mae'n aelod o'r Grŵp Ymgynghorol ar Dybaco yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon ac o Grŵp Datblygu Rhaglenni'r Athrofa Genedlaethol er Rhagoriaeth Feddygol (NICE), sy'n paratoi canllawiau ynglŷn â'r dulliau gorau o ddarparu gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu mewn rhaglenni iechyd cyhoeddus.

© Ash Cymru 2007. Dyluniwyd a datblygwyd y wefan gan Core mewn cydweithrediad â Cactus.

Cyfeiriad: Ash Cymru, 2ail Lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG

Ffôn: 029 2064 1101