Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.
Dychmygwch… Dyma eich cyfle
Athro Meddygaeth Liniarol yw Ilora Finlay ac mae'n gweithio gyda Gofal Canser Marie Curie ers 1987. Bu'n Is-Ddeon yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd rhwng Awst 2000 a Hydref 2005 ac fe'i penodwyd yn ddiweddar yn Llywydd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol.
Ers ei dyrchafu'n Farwnes yn 2001, bu'n weithgar mewn trafodaethau ar faterion iechyd, yn enwedig ym maes Iechyd a Thybaco. Mae'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg ac, yn ddiweddar, o'r Pwyllgor Dethol ar Ddeddf Marwolaethau Cymorthedig y Terfynol Wael. Mae hefyd yn Llywydd Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig ac MS Cymru ac yn Noddwraig Hosbis Shalom, Cymru. Hi oedd Cymraes y Flwyddyn 1996-7 a bu'n Athro Ymweliadol ym Mhrifysgol Gröningen (Cadair Johanna Bijtel) a Phrifysgol Melbourne.