In English

Gweithredwch Nawr! Rheoli Tybaco ar gyfer y Dyfodol

Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.

Gwneud gwahaniaeth o bwys heddiw

Mynd yn syth i'r cynnwys

Llywio trwy'r wefan

Siaradwyr yn y Gynhadledd

Ms Norma Cronin

Mae gan Norma Cronin gymwysterau fel Nyrs Gyffredinol yn Iwerddon a Diploma Uwch mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus. Mae'n gweithio ym maes hybu iechyd ac atal canser i Gymdeithas Ganser Iwerddon ers pymtheng mlynedd. Yn ei swydd bresennol fel Rheolwraig Hyrwyddo Iechyd, hi sy'n gyfrifol am weithgareddau gwrth-dybaco'r gymdeithas honno. Cydweithiodd â'r asiantaethau perthnasol i sicrhau bod deddfwriaeth Iwerddon i rwystro ysmygu yn y gweithle yn cael ei gweithredu ac mae hi wedi teithio'r byd i gyflwyno hanes y fenter arloesol hon. Bu'n siaradwraig sesiwn llawn yn nghynhadledd UICC 2004 i sefydliadau canser, trydedd gynhadledd atal tybaco Awstralia yn 2005 a'r drydedd gynhadledd ar ddeg a drefnwyd gan WCTOH yn 2006 ar destun 'tybaco neu iechyd'.

Norma a sefydlodd Quitline cenedlaethol Iwerddon, sef un o weithgareddau Cymdeithas Ganser Iwerddon ar y cyd â'r Gwasanaeth Iechyd, a hi sy'n ei rheoli. Mae'n aelod o nifer o bwyllgorau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Pwyllgor Llywio Rhwydwaith Quitlines Ewrop (ENQ) a Bwrdd Ymgynghorol Rhwydwaith Ryngwladol Menywod a Thybaco (INWAT). Mae hefyd yn aelod o fwrdd ASH Iwerddon a Rhwydwaith Pobl Ifainc a Thybaco Ewrop (ENYPAT).

© Ash Cymru 2007. Dyluniwyd a datblygwyd y wefan gan Core mewn cydweithrediad â Cactus.

Cyfeiriad: Ash Cymru, 2ail Lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG

Ffôn: 029 2064 1101