In English

Gweithredwch Nawr! Rheoli Tybaco ar gyfer y Dyfodol

Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.

Gwneud gwahaniaeth o bwys heddiw

Mynd yn syth i'r cynnwys

Llywio trwy'r wefan

Siaradwyr yn y Gynhadledd

Yr Athro Cyswllt Renee Bittoun

Mae'r Athro Cyswllt Renee Bittoun wedi gweithio ym maes Rhoi'r Gorau i Ysmygu ers rhagor na 25 mlynedd. Sefydlodd y Clinig Ysmygywr cyntaf yn Awstralia yn Ysbyty Sant Nincent, Sydney yn 1979. Mae ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr y Clinigau Ysmygwyr sydd dan ofal Gwasanaeth Iechyd Rhanbarthol Sydney, yn Uwch Gymrawd Ymchwil ac yn Bennaeth yr Uned Rhoi'r Gorau i Ysmygu yn Athrofa Ymchwil Feddygol Woolcock ac yn Aelod Clinigol Cyswllt o Gyfadran Meddygaeth Prifysgol Sydney. Cyhoeddodd nifer o lyfrau – rhai arbenigol a rhai ar gyfer y cyhoedd – ar ysmygu a rhoi'r gorau iddi. Sefydlodd y cwrs prifysgol cyntaf ar Gaethiwed i Nicotîn a Rhoi'r Gorau i Ysmygu ym Mhrifysgol Sydney a hi yw Llywydd AASCP, sef cymdeithas y gweithwyr proffesiynol ym maes rhoi'r gorau i ysmygu yn Awstralia. Cafodd Renee ei phenodi'n ddiweddar yn Brif Olygydd y cyfnodolyn rhyngwladol newydd, Journal of Smoking Cessation. Mae Renee yn rhugl mewn pedair iaith heblaw'r Saesneg.

© Ash Cymru 2007. Dyluniwyd a datblygwyd y wefan gan Core mewn cydweithrediad â Cactus.

Cyfeiriad: Ash Cymru, 2ail Lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG

Ffôn: 029 2064 1101