Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.
Gwneud gwahaniaeth o bwys heddiw
Robert West yw Athro Seicoleg Iechyd a Chyfarwyddwr Astudiaethau Tybaco yn Uned Ymddygiad Iechyd Canolfan Ganser y Deyrnas Gyfunol. Y mae hefyd yn Brif Olygydd Addiction ac yn gyd-awdur y Canllawiau Cenedlaethol ar gyfer Rhoi'r Gorau i Ysmygu yn Lloegr, a roes batrwm ar gyfer y rhwydwaith o wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu sydd bellach yn rhan gydnabyddedig o'r Gwasanaeth Iechyd drwy gydol y Deyrnas Gyfunol.
Diddordebau Ymchwil
Mae gwaith ymchwil yr Athro West yn cynnwys cynnal profion clinigol ar driniaethau newydd ar gyfer atal ysmygu, astudiaethau o effeithiau dwys diddyfnu o dybaco ac astudiaethau o batrymau ysmygu yn y boblogaeth.