In English

Gweithredwch Nawr! Rheoli Tybaco ar gyfer y Dyfodol

Mae ASH Cymru'n cynnal cynhadledd arloesol ar Reoli Tybaco ym mis Ebrill 2008.

Gwneud tybaco'n annymunol, yn annerbyniol ac yn anodd cael gafael arno

Mynd yn syth i'r cynnwys

Llywio trwy'r wefan

Siaradwyr yn y Gynhadledd

Dr Tony Jewel Prif Swyddog Meddygol Cymru

Dechreuodd Dr Tony Jewell ar ei swydd fel Prif Swyddog Meddygol Cymru ym mis Ebrill 2006. Cyn hynny ef oedd Cyfarwyddwr Clinigol a Chyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Awdurdod Iechyd Strategol Norfolk, Suffolk a Swydd Caergrawnt.

Ar ôl cymhwyso ym maes meddygaeth yn 1975 (Prifysgol Caergrawnt ac Ysbyty Llundain) ymgymerodd â hyfforddiant galwedigaethol i ddod yn Feddyg Teulu yng nghanol dinas Llundain. Yn ystod ei gyfnod yn Nwyrain Llundain bu'n gwasanaethu ar Awdurdod Iechyd Tower Hamlets am chwe blynedd a bu'n Feddyg Teulu mewn practis grŵp am 10 mlynedd. Wedi hynny symudodd i Gaergrawnt yn 1990 i hyfforddi mewn iechyd cyhoeddus a chael ei benodi'n ymgynghorydd ac yna'n Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Peterborough a Swydd Caergrawnt cyn symud i'r Awdurdod Iechyd Strategol yn 2002.

Ei ddiddordebau proffesiynol ym maes iechyd cyhoeddus yw lleihau anghydraddoldebau iechyd, rhwystro damweiniau ac anafiadau a gofal sylfaenol.

© Ash Cymru 2007. Dyluniwyd a datblygwyd y wefan gan Core mewn cydweithrediad â Cactus.

Cyfeiriad: Ash Cymru, 2ail Lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG

Ffôn: 029 2064 1101